|
|
Croeso i wefan Y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.
Cliciwch ar un o'r amryw fotymau sydd o amgylch y dudalen er mwyn
pori'r wefan - a mwynhewch!
Beth yw'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol?
Nôd y Gymdeithas Wyddonol yw cynyddu'r ymwybyddiaeth
o wyddoniaeth yng Nghymru, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddwn
yn gwneud hyn drwy:
- Trefnu gweithgareddau i ysgolion
- Cyhoeddi llyfrau, llyfrynnau a phosteri o dro i dro, ar gyfer
plant ac oedolion
- Arddangos yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
- Bob blwyddyn byddwn yn cynnal cynhadledd ar thema wyddonol amserol.
Rydym yn cydweithio'n agos â Canolfan
Edward Llwyd, canolfan a lansiwyd yn ddiweddar (fis Mai 2002)
er mwyn hybu gwyddoniaith drwy'r Gymraeg ar lefel Prifysgol.
Trefnir y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol ar gynllun ffederal -
mae canghennau yng Ngwynedd, Clwyd, Caerdydd
ac Aberystwyth. Bydd y canghennau hyn yn trefnu darlithoedd a gweithgareddau.
Mae trafodaethau ar droed ar hyn o bryd
i benderfynu sut ffurf bydd ar y Gymdeithas yn y dyfodol. Os oes
gennych sylwadau, croeso i chi eu hanfon at y cyfeiriad hwn: pc-cell@aber.ac.uk
|
 |
| |
Mewn
cydweithrediad â:
 |
|
|